SL(5)457 – Rheoliadau Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Isafbris Uned) (Cymru) 2019

Cefndir a Diben

Mae'r Rheoliadau hyn yn pennu mai'r isafbris uned at ddibenion Adran 1 o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru) 2018 ("Deddf 2018") yw £0.50.

 

Mae Deddf 2018 yn gwneud darpariaeth ynghylch yr isafbris y mae alcohol i'w gyflenwi amdano gan fanwerthwyr alcohol o fangreoedd cymhwysol yng Nghymru, ac mae'n sefydlu cyfundrefn orfodi a arweinir gan yr awdurdod lleol.

 

Mae adran 1 o Ddeddf 2018 yn nodi'r fformiwla sydd i'w chymhwyso wrth gyfrifo'r isafbris cymwys at y diben hwn. Y fformiwla honno yw I x Cr x Cy.

 

I yw’r isafbris uned a bennir mewn rheoliadau; Cr yw cryfder yr alcohol, a fynegir fel rhif prifol (felly er enghraifft os yw’r cryfder yn 5%, 5 fydd y rhif prifol perthnasol); a Cy yw cyfaint yr alcohol mewn litrau.

Gweithdrefn

Cadarnhaol.

Materion technegol: craffu

Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â’r offeryn hwn.

Rhinweddau: craffu

Nodwyd y pwyntiau a ganlyn i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â'r offeryn hwn:

1.    Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Cynulliad

Mae'r Rheoliadau hyn yn gosod isafbris uned am alcohol ar lefel o 50c yng Nghymru am y tro cyntaf, ac at ddibenion y gyfundrefn isafbris a gyflwynwyd gan Ddeddf 2018.

Cynhaliodd Llywodraeth Cymru ymgynghoriad 12 wythnos ar lefel yr isafbris uned a ffefrir ganddi ac ar y rheoliadau drafft, fel sy'n ofynnol o dan gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor.

Mae'r Memorandwm Esboniadol yn darparu Asesiad Effaith Rheoleiddio manwl (tudalennau 7-42) sy'n manylu ar yr opsiynau a'r ystyriaeth a roddwyd i effaith nodi lefelau isafbris uned gwahanol gan Lywodraeth Cymru.

Y goblygiadau yn sgil gadael yr Undeb Ewropeaidd 

Ni nodwyd unrhyw oblygiadau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â'r offeryn hwn.

Ymateb y Llywodraeth

Nid oes angen ymateb gan y Llywodraeth.

 

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

17 Hydref 2019